
Croeso i Eich Gyrfa, Eich Dyfodol.
Ffair gyrfaoedd a swyddi ddigidol Cymru gyfan.
Digwyddiad mewn partneriaeth â Cymru’n Gweithio yw hwn, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ac a gefnogir gan sefydliadau a chyflogwyr eraill.
Dydd Mawrth 19 – dydd Iau 21 Hydref
Ymunwch â’r digwyddiad i gael gwybodaeth am y sectorau cyflogaeth allweddol yn eich ardal chi a’r swyddi sydd ar gael.
Dewch i wrando ar gyflwyniadau byw sy’n sôn am y prif sectorau twf yn eich ardal chi, y swyddi y mae galw amdanynt, swyddi gwag byw, datblygiadau yn y dyfodol a chael sgwrs â chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
-
Swyddi
-
Prentisiaethau
-
Addysg a hyfforddiant
-
Cymorth cyflogaeth
-
Gwirfoddoli
-
Gwasanaethau cymorth eraill
Dydd Mawrth 19 Hydref, 10am i 12pm
Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)
Dydd Mawrth 19 Hydref, 1pm i 3pm
Canolbarth Cymru (Powys a Cheredigion)
Dydd Mercher 20 Hydref, 10am i 12pm
De-ddwyrain Cymru (Torfaen, Caerdydd, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Blaenau Gwent)
Dydd Iau 21 Hydref, 10am i 12pm
De-orllewin Cymru (Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro)
Defnyddiwch y map rhyngweithiol i ddewis eich rhanbarth:
